sabato 13 settembre 2008

Drama

Newydd weld cynhyrchiad Cwmni Theatr Cendelaethol Cymru o "Iesu".
Yn gyntaf 'dyw'r math yma o gynhyrchiad ddim yn addas i'w labelu'n "genedlaethol". Ysgol ddrama neu be' liciwch chi ond ddim cenedlaethol plis.
Fel ac y cafwyd yn y cynhyrchiad o Romeo a Jiwliet taflwyd pob dim i mewn i'r cynhyrchiad yma nes fod y cyfan yn un potes plwyfol. Un nodwedd amlwg o'r cynhyrchiad oedd fod y rhan fwyaf o'r actorion ar y llwyfan yn gwbl fud am y noson gyfan - felly fe gafwyd llawer o wgu, rhyfeddu, llawenhau, drysu, poeni ag ati - a'r cyfan yn ddieiriau!
Be' sy'n bod arnom ni Gymru fod arnom angen "ddrama fawr"? Dyna'r geiriau a welais i ddisgrifio hon - ond wir 'doedd hi ddim yn ymylu at fod yn fawr. 'Roedd y syniad tu ol i'r diweddglo yn un cwbl ddilys ond yn anffodus yn hytrach na canolbwyntio ar arwain y ddrama'n grefftus tua'i diweddglo heriol yr hyn a gafwyd oedd tipyn o ddramau festri capel wedi eu gludo at ei gilydd yn ddigon anghelfydd. Dafydd Dafis yn ddios oedd cawr y noson ac fe gariodd yr holl beth yn ei flaen gydag awdurdod. Noson i'w anghofio.

mercoledì 10 settembre 2008

Tro trwstan

Dim ond wedi cychwyn cynnig sylwadau a dyma fi'n cael fy nharo'n wael ac yn cael fy nghludo i'r ysbyty! Cosb mae'n siwr medd rhai - dyna'i haeddiant. Ond nid dyna fy marn i!
Bellach dwi'n raddol dod at fy hun ac yn ail-afael ym mhethau'r byd hwn.
Gwyliwch hyn o wagle!