Pa gymhwyster sydd ei angen arnoch i fod yn aelod effeithiol o'n Cynulliad Cenedlaethol?
Croen fath ag eliffant dybiwn i wrth ddarllen am yr hyn mae rhai aelodau yn ei hawlio fel costau byw! Tra bo sawl A.C. ddim yn hawlio'r un geiniog mae eraill yn hawlio miloedd o bunnoedd o ad-daliad am gostau byw yn y brif-ddinas.
“It’s in all our interests that nobody has any suspicion about what’s going on and democracy in Wales is seen to be clean and serene,” - geiriau Dafydd El yn ol icwales sydd i fod i dawelu ein amheuon. Wel dyma un sy'n credu fod y dyfroedd tua'r Cynulliad yna ymhell o fod yn "clear and serene!"
lunedì 18 agosto 2008
sabato 16 agosto 2008
Rhannu

A pa ffordd gwell (i'm tyb i o leia)' na rhannu'r hyn sy'n dda - gan dynnu dy sylw i bedair llinell olaf cerdd y bardd o'r Flaenau Ffestiniog i Landdwyn.
Ble mae Llanddwyn? Rhaid teithio lan i'r Gog ac i Ynys Mon, ac wedi troi i'r chwith 'rôl croesi Pont Brittania ac yna troi i'r chwith yn Llanfairpwll (i gyfeiriad Brynsiencyn) rhaid dal ymlaen nes cyrraedd pentre bach Niwbwrch. Ar groesffordd y pentre hwn rhaid troi i'r chwith eto a dilyn y lon fach sy'n arwain i lawr drwy'r coed at y Maes Parcio. Yna gellid cyrchu am y traeth - troi i'r dde a crwydro yr "Ynys Llanddwyn" hynafol neu troi i'r chwith a mynd am dro hyd y traeth llydan (os yw'r llanw allan!) Paid synnu os weli di noethlymunwyr ar ddiwrnod braf yn torheulo neu'n nofio'n borcyn yn y dwr - mangre bendigedig. Ond mae Gwyn Thomas yn mynegi hyn yn well o lawer na minnau.
Llanddwyn addfwynaf,
Byd gwyn a hwyrddydd haf,
A dyn yn rhyw deimlo, rhwng awyr a thraeth,
Fod da o'i enedigaeth.


venerdì 15 agosto 2008
Ferragosto!
Pa adeg gwell na dydd gwyl ynghanol Awst i mi gychwyn rhannu a ti - annwyl ddarllennydd (neu chwithau darllenwyr!) ffrwyth fy myfyrdodau am agweddau o'r byd sydd ohoni. Cawn weld be fydd yn denu fy sylw!
Iscriviti a:
Post (Atom)