Visualizzazione post con etichetta Llanddwyn. Mostra tutti i post
Visualizzazione post con etichetta Llanddwyn. Mostra tutti i post

sabato 16 agosto 2008

Rhannu


A pa ffordd gwell (i'm tyb i o leia)' na rhannu'r hyn sy'n dda - gan dynnu dy sylw i bedair llinell olaf cerdd y bardd o'r Flaenau Ffestiniog i Landdwyn.
Ble mae Llanddwyn? Rhaid teithio lan i'r Gog ac i Ynys Mon, ac wedi troi i'r chwith 'rôl croesi Pont Brittania ac yna troi i'r chwith yn Llanfairpwll (i gyfeiriad Brynsiencyn) rhaid dal ymlaen nes cyrraedd pentre bach Niwbwrch. Ar groesffordd y pentre hwn rhaid troi i'r chwith eto a dilyn y lon fach sy'n arwain i lawr drwy'r coed at y Maes Parcio. Yna gellid cyrchu am y traeth - troi i'r dde a crwydro yr "Ynys Llanddwyn" hynafol neu troi i'r chwith a mynd am dro hyd y traeth llydan (os yw'r llanw allan!) Paid synnu os weli di noethlymunwyr ar ddiwrnod braf yn torheulo neu'n nofio'n borcyn yn y dwr - mangre bendigedig. Ond mae Gwyn Thomas yn mynegi hyn yn well o lawer na minnau.

Llanddwyn addfwynaf,
Byd gwyn a hwyrddydd haf,
A dyn yn rhyw deimlo, rhwng awyr a thraeth,
Fod da o'i enedigaeth.